top of page

02

Ein Tîm. Darganfyddwch fwy am Sera a Rob, y bobl y tu ôl i Sdori.

Our Team. Find out more about Sera and Rob, the people behind Sdori.

Stefani Longshamp
Sera 2.jpg
SERA ZYBORSKA

Mae Sera bob amser wedi bod ag angerdd am y celfyddydau creadigol, ac mae wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn gweithio fel ymarferydd celfyddydau a chyfryngau ar ei liwt ei hun ochr yn ochr â’i chyfansoddi caneuon. Mae hyn wedi ei harwain at rai sefydliadau, unigolion a phrosiectau cyffrous ac ysbrydoledig: mentrau celfyddydau (gan gynnwys Bocs, Gŵyl Grai, Ysgolion Creadigol Arweiniol) ysgolion, digwyddiadau (ee Broadwick Live, Kili Live, Focus Wales) creu cerddoriaeth a pherfformio, yn ogystal â datblygu prosiectau ar gyfer radio a theledu gydag Orchard Media. Mae hi bob amser yn archwilio mentrau newydd ac yn ffynnu ar weld syniadau'n dod yn fyw. Mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda phobl o'r un anian a bod yn rhan o'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Sera yn gweithio ar ddatblygu rhaglenni, rheoli prosiect Yn Y Golau, (menter cydbwysedd rhyw mewn cerddoriaeth) a'i cherddoriaeth ei hun.

Sera has always had a passion for the creative arts, and has pursued a successful career working as a freelance arts and media practitioner alongside her songwriting. This has led her to some exciting and inspiring organisations, individuals and projects: arts initiatives (inc. Bocs, RawFfest, Lead Creative Schools) schools, events (e.g Broadwick Live, Kili Live, Focus Wales)  making music and performing, as well as developing projects for radio and television with Orchard Media. She is constantly exploring new ventures and thrives on seeing ideas come to life. She loves working with like-minded people and being a part of the creative industries in Wales. Sera is currently working on programme development, project managing the Yn Y Golau, gender balance in music initiative and her own music.

ROBERT ZYBORSKI
rob camera.jpg

Mae Robert yn weithredwr camera proffesiynol a pheilot drôn llawrydd, sydd wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau ym myd cynhyrchu teledu a fideo. Yn ogystal â gweithio fel gweithredwr camera a pheilot drôn ar raglenni dogfen teledu, fideos cerddoriaeth, a phrosiectau corfforaethol pen uchel, gall hefyd olygu a chynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel. Ymhlith y credydau diweddar mae The Village, The Island Strait a The Mountain ar ITV; Cefn Gwlad ar gyfer S4C; a The Last Climb: Eric Jones a The Champion's League of Darts ar gyfer y BBC. Mae rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o'i waith i'w gweld ar wefan Robert: www.televisioncameraman.wales. Gweler isod am showreel diweddar.

Robert is a freelance professional camera operator and drone pilot, who has worked on a wide range of projects in the world of television and video production. As well as working as a camera operator and drone pilot on television documentaries, music videos, and high end corporate projects, he can also edit and produce high quality content. Recent credits include ITV's The Village, The Mountain and The Island Strait; Cefn Gwlad  for S4C; and The Last Climb: Eric Jones and the Champions League of darts for the BBC. Further information and examples of his work are to be found on Robert's website: www.televisioncameraman.wales. See below for recent showreels.

Robert Zyborski Showreel

Robert Zyborski Showreel

All Categories
All Categories

Showreel 2018

Drone Showreel 2019

Showreel 2017

bottom of page